Telyn electro Paraguayan

Telyn electro Paraguayan

Telyn EC electro Paraguayan

Uchder:137 cm
Pwysau:7 cg
Ystod:37 tant neilon, B0 i A36
Deunyddiau:

ffeibr carbon

Caboliadau:

unrhyw orffeniad lliw solet. Gorffeniad arbennig “True Fire” (opsiwn)

Yn dilyn archwilio Colombia (trwy’r EC Llanera 35, a ddatblygwyd gyda Edmar Castaneda) a Feneswela (trwy’r EL 37 gyda Leonard Jacome) mae anturiaethau De America Camac wedi ymestyn i Baragwai. Yn dilyn ei deithiau ym Mharagwai ac yn enwedig yn yr ŵyl “Mundial del Arpa” yn Asuncion, roedd Jakez François yn frwdfrydig i ateb yr her i gynhyrchu telyn Baragwaiaidd i’r unfed ganrif ar hugain. Mae’n fersiwn drydan, gyda mencawaith codi ar bob tant, a chorff ffeibr carbon; mae’n cyfuno’r savoir-faire tu ôl i’r DHC 32, a’r llanera drydan.

Wedi ei hysbrydoli gan Baragwai, ac wedi ei hymroi i’r wlad honno, ble datganwyd yn 2010 mai’r delyn fyddai’r symbol diwylliannol cenedlaethol, bydd posibiliadau eithriadol y delyn drydan corff solet hon o ddiddordeb mawr i genhedlaeth newydd o delynorion o Baragwai,  cyn gymaint yn Ne America ag yng ngweddill y byd.