Janet

Janet

Telyn lifer cyngerdd

Uchder:129 cm
Pwysau:10 cg
Ystod:34 tant, A1-C34
Tantio :

neilon (A1 – D26), weiars bas telyn lifer (C27 – C34)

Pren:

masarn neu gollen Ffrengig i’r corff, sbriwsen i’r seinfwrdd

Caboliadau:

masarn naturiol, collen Ffrengig naturiol. Addurniadau seinfwrdd opsiynol

“Pan gynigiodd Joël Garnier i wneud telyn fy mreuddwydion, roeddwn wedi breuddwydio am delyn y byddai fy nghyd-delynorion, fy myfyrwyr a minnau yn caru ei chwarae – yn Wyddelig hanfodol a llawer mwy hefyd! Mae ffurf y Janet yma wedi ei hysbrydoli gan yr hen offerynau Gwyddelig ac mae’r fflach arian ar y golofn yn union fel mil o leoedd tân yn fflamio mewn neuaddau hynafol. Mae bylchau’r tannau’n gulach a’r tensiwn yn ysgafnach, yn unol â’r traddodiad Gwyddelig. Mae hyn yn galluogi’r telynor i hedfan dros y tannau a chynhyrchu sain ardderchog sy’n gyfoethog a disglair.

Mae telyn y Gwyddel bob amser wrth ei ochr ac mae’r Janet yr un mor ysgafn a chyfforddus i’w chludo ag y mae i’w chwarae. Diolch, Jakez, am wireddu fy mreuddwyd i a Joël a chynhyrchu’r delyn Wyddelig orau oll. Rydw i’n browd i chwarae a bod yn gysylltiedig â buddugoliaeth cystal i gerddoriaeth Geltaidd.”

Janet Harbison