Celtic Isolde / Isolde classique

Celtic Isolde / Isolde classique

Telyn lifer Classical / Celtic

Uchder:140 cm
Pwysau:13.8 cg
Ystod:38 tant, C00 - A36
Tantio :

Celtic Isolde: Alliance ® (C00 – D26), weiars bas telyn lifer (C27 – A36). Isolde Classique: fflworocarbon mesuriad clasurol (C00 – D26), weiars bas telyn lifer (C27 – A36)

Pren:

masarn a ffawydden i’r corff, sbriwsen i’r seinfwrdd

Caboliadau:

masarn naturiol, pren ceirios, collen Ffrengig, mahogani, eboni. Addurniadau seinfwrdd opsiynol

Celtic Isolde

Gyda siâp sy’n ddigyfnewid, yn hyfryd o ysgafn, â thannau o fesur gwerin Alliance®, a sain eglur, deinamig mae’r Isolde yn delyn ddelfrydol ar gyfer cerddoriaeth draddodiadol. Mae ei hystod, wedi ei ymestyn i 38 tant y delyn fodern, wedi ei hangori’n gadarn yn y byd sydd ohoni. Mae gan y bas ddyfnder mawr a grym hudolus, ac ynghyd â chyffyrddiad hyblyg ond cadarn, bydd yr Isolde yn cynnig pleser anghymeradwy i chi, yn ogystal ag amrywiaeth eang yn eich dewis o gerddoriaeth.

Isolde classique

Fel teyrnged i opera enwog Wagner, mae’r Isolde yn cynrychioli hanfod gwaith angerddol ein crefftfeistri.  Mae gan y delyn hon, sydd wedi ei chynyrchu’n wych, dannau fflworocarbon. Mae eu tensiwn yn union yr un fath â thelynau cyngerdd gyda sain cyfoethog, crwn, ac ansawdd tôn arbennig iawn – hyn oll yn ddelfrydol ar gyfer y repertoire clasurol. Mae’r tannau hyn hefyd yn sefydlog iawn o’u cymharu â thannau coludd, yn swnio’n brydferth ac yn gadarn iawn.