Excalibur

Excalibur

Telyn gyngerdd lifer mawr

Uchder:147 cm
Pwysau:13.8 cg
Ystod:38 tant, C00 - A36
Tantio :

fflworocarbon Kürschner ar gyfer Excalibur (C00 i D26), weiars telyn lifer (C27 i A36)

Pren:

masarn a ffawydden i’r corff, sbriwsen i’r seinfwrdd

Caboliadau:

mahogani, pren ceirios, collen Ffrengig, naturiol neu eboni. Addurniadau seinfwrdd opsiynol

François Pernel 

Llawer o flynyddoedd yn ôl, roedd Telynau Camac yn falch iawn o’u telyn Excalibur, sef offeryn ar gyfer cerddorion oedd angen offeryn pwerus, unigryw. Fel y cleddyf chwedlonol, nid yw’r delyn hon gyda ni mwyach. Ond erbyn hyn, mae’r Excalibur yn codi eto, mewn model newydd! Mae’n delyn lifer fawr, yn cynnig tensiwn tannau llyfn, seinfwrdd wedi ei ddylunio’n arbennig, a’r cydbwysedd gorau yn amleddau’r seinfwrdd. Mae ei sain yn enfawr, yn anhygoel o gyfoethog ac yn llyfn.

Mae’r Excalibur yn cynnig ymgom newydd rhwng ei blwch sain newydd, ystod eang wedi ei chynhyrchu ar gyfer pob math o gerddoriaeth, a thensiwn tannau cyfoes. Mae’n feincnod cerddorol, yn cynnig i’r artist, berthynas arloesol â’i offeryn.