Atlantide Prestige

Atlantide Prestige

Telyn Gyngerdd Crand

Uchder:186 cm
Pwysau:35 cg
Ystod:47 tant, G00 - C45
Pren:

masarn, a sbriwsen i’r seinfwrdd. Cyfres arbennig mewn rhosbren Santos o Frasil, Zebrano/Zingana, Kevazingo/Bubinga

Caboliadau:

masarn naturiol, mahogani, pren ceirios, eboni, rhosbren, Zebrano, Kevazingo. Gorffeniadau penodol i’w harchebu

Yr Atlantide Prestige yw emblem cyfres telynau pedal proffesiynol ‘Cenhedlaeth Newydd’ Camac. Fe’i lansiwyd ym 1996 yng Nghynhadledd Telynau’r Byd ym Mhrâg ac mae telynau’r Genhedlaeth Newydd wedi eu hailddylunio’n llwyr, i ddatrys y materion technolegol mwyaf pwysig mewn telynau a gynhyrchir yn draddodiadol. Y prif newidiadau mewn Telynau Cenhedlaeth Newydd yw tonyddiaeth arbennig o gywir, a mecanwaith  llyfn, tawel a hawdd ei reoleiddio. Mae’r defnydd o ffeibr carbon yn y rhannau strwythurol wedi gwella’r cryfder, y pwysau a’r sefydlogrwydd tra bo cydbwysedd newydd o amleddau yn y seinfwrdd wedi arwain at sain eithriadol: crwn, eglur a llyfn.

Mae’r Atlantide Prestige hefyd ar gael mewn pren hardd, prin. Mae rhosbren trofannol, Bubinga a Zingana yn cynnig ystod wych o liw, gwythienwaith a dyluniad. Fel ein holl bren, fe’u dewisir o goedwigoedd cynaliadwy gan roi ystyriaeth ddifrifol i gadwraeth amgylcheddol.