Penwythnos Telynau Camac Caerdydd 2026

Rydym wrth ein bodd i’ch croesawu i’n Penwythnos Telynau Camac Caerdydd diweddaraf. Ymunwch â ni yng Nghaerdydd ar 7-8 Chwefror am benwythnos gwych o gyngherddau telyn, gweithdai a dosbarthiadau meistr. Cofrestrwch eich telyn Camac i mewn i gael rheoliad rhad ac am ddim gan dechnegwyr telyn Camac neu galwch i mewn i roi cynnig ar amrywiaeth o delynau Camac yn yr arddangosfa. Mae’r holl fanylion sydd eu hangen arnoch yn y llyfryn isod a gallwch hefyd lawrlwytho’r ffurflen archebu. Edrychwn ymlaen at ddathlu popeth Camac gyda chi yng Nghaerdydd!

 

Rhaglen

Eleni rydym yn falch fod sêr byd y delyn yn ymuno â ni o’r DU a thramor. Rydym wrth ein bodd, er bod llawer ohonynt wedi bod yn ffrindiau i ni ers sawl blwyddyn, eu bod yn dod i ddigwyddiadau Caerdydd am y tro cyntaf. Ein hartistiaid gwych eleni yw Catrin Finch, Corrina Hewat, Gwenllian Llyr, Tara Minton, Tsvetelina Likova and Veronika LemishenkoMae’r amrywiaeth anhygoel hon o dalent yn golygu bod rhywbeth at ddant pob oedran – plant ac oedolion; pob gradd – o ddechreuwyr llwyr i delynorion proffesiynol; a phob arddull – o glasurol i pop, jazz a cherddoriaeth draddodiadol.

Am fwy o fanylion, lawrlwythwch y PDF o’r rhaglen lawn i’r dde! Gallwch hefyd lawrlwytho’r ffurflen archebu, a’i dychwelyd atom drwy’r post neu e-bost.