Telynau Ail Law
Rydym weithiau yn gallu cynnig detholiad o delynau ail law o ansawdd da. Mae’r telynau yma fel arfer yn rhai sydd wedi bod allan i rhentu neu telynau sydd wedi ei cymrud mewn fel rhan-gyfnewid.
Nid yw pob telyn sydd yn cael ei hysbysebu ar y dudalen yma yn ein siop felly ffoniwch 02920 620900 am rhagor o fanylion ac i ffeindio mas ble mae’r delyn.
Ar hyn o bryd, mae’r telynau canlynol ar gael ar werth yn ein siop:
Hermine
Telyn werin 34 tant carbon mewn gorffeniad mahogani ar goesau. Cyflwr ardderchog a dim ond cwpwl o marciau bach. Mae’r delyn wedi bod allan ar rent tymor byr ac felly mae warant llawn 5 mlynedd arni. Yn dod gydag allwedd tiwnio a gorchudd llwch – £1,700.00
Ulysse
Telyn werin 34 tant carbon mewn gorffeniad glas gyda system pick-up Ischell wedi adeiladu mewn. Cyflwr ardderchog. Ail-law a wedi’i leoli ym Mryste mae’r delyn yn dod gyda gorchudd llwch, allwedd tiwnio, gorchudd cario trwm a stol sy’n addasadwy mewn gorffeniad glas. Mae ganddo hefyd 2 flynedd o warant ar ôl – £4,250.00
EC Llanera 35
Telyn lifer 35 tant neilon steil De America mewn gorffeniad glas. Cyflwr da iawn arwahan i marc bach gwaelod y seinfwrdd. Yn dod gyda allwedd tiwnio a gorchudd trwm – £1,800.00
Clio
Telyn bedal 44 tant mewn gorffeniad masarnen naturiol glos gyda seinfwrdd estynedig. Ail-law a mewn cyflwr da, gyda rhai marciau. Cafwyd y delyn yma ei gwneud yn arbennig ar gyfer ein cwsmer gyda seinfwrdd Atlantide Prestige masarnen birdseye sy’n creu ton arbennig. Yn dod gydag allwedd tiwnio, gorchudd llwch, bag o offer a set o orchuddion trwm – £8,250.00