Gwersi Telyn

Rydyn yn cynnig gwersi telyn yn ein siop i ddechreuwyr o bob oedran. Mae’r rhain yn set o ddwy gwers hanner awr neu un gwers awr wedi cynllunio i chi ddarganfod y delyn a gweld os yw hi’n offeryn fyddwch yn mwynhau ac eisiau parhau gyda. Mae’r gwersi yn costio £15 am hanner awr neu £30 am awr. Yn dilyn y gwersi yma gallwn argymell athrawes telyn yn eich ardal. I drefnu eich gwers cyntaf cysylltwch â ni ar 02920 620900 neu gyda e-bost i [email protected].

Rwyf am alluogi cynnwys fideo ac yn cytuno y bydd data'n cael ei lwytho o Vimeo (gweler Polisi Preifatrwydd).

Gweithdai

Rydyn yn trefnu arddangosfeydd o amgylch y DU ynghyd â gweithdai. Mae hyn yn gyfle da i athrawon cael dewis helaeth o delynau er mwyn chwarae fel grŵp. Rydyn yn hapus i drefnu cyngherddau neu dosbarth meistr gyda telynorion blaenllaw o bob cornel o’r byd fel ein digwyddiadau diweddar gyda Isabelle Moretti (Ffrainc), Mai Fukui (Japan) a Deborah Henson Conant (UDA). Cysylltwch â ni os ydych chi eisiau i ni drefnu digwyddiadau yn eich ardal.

Priodasau A Digwyddiadau Corfforol

Pa un ai seremoni sifil, priodas crefyddol, derbyniad neu cinio corfforol gall telynores yn chwarae yn y cefndir godi’r awyrgylch a chreu ystyr achlysurol unigryw. Rydyn yn cadw rhestr o delynorion proffesiynol ym mhob ardal y gellir llogi am ddigwyddiadau. Cysylltwch â ni os hoffech i ni ddyfynnu pris yn arbennig i’ch digwyddiad.