Gwybodaeth gyfreithiol

Enw ein cwmni cofrestredig yw Telynau Vining Cyf ond rydym hefyd yn masnachu fel Telynau Vining Harps. Rydym wedi’n cofrestru yng Nghymru gyda rhif y cwmni 3770852 a’r cyfeiriad cofrestredig yw 21 Wingfield Road, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1NJ.

Ein cyfeiriad masnacha yw:

Telynau Vining Harps
116B Pantbach Road
Birchgrove
Caerdydd
CF14 1UE
Y Deyrnas Unedig
Ffôn: 029 2062 0900   (Rhyngwladol: +44 29 2062 0900) 

Ebost: [email protected]

Rhif Cofrestru TAW 736 6020 45 yn enw Telynau Vining Cyf

Data bersonol

Yn gyffredinol gallwch ymweld â’n safle heb orfod datgan pwy ydych chi na darparu gwybodaeth bersonol. Pe baech yn dewis dilyn unrhyw ddolenni i’n siop gwefan www.rowlandsonline.co.uk gofynnir i chi fewnbwnio eich manylion personol pe hoffech gwblhau archeb. Worldpay sy’n delio ag unrhyw daliadau ar-lein ar y safle honno ac nid oes gennym unrhyw ffordd i gael eich manylion cerdyn. Cewch eich cyfeirio at safle ddiogel Worldpay i gwblhau eich archeb.

Ni fydd Telynau Vining Harps yn rhannu eich data na’ch gwybodaeth i unrhywun arall heb eich caniatâd i wneud hynny.

Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod y wybodaeth sydd ar gael ar-lein yn gywir ac yn ddiweddar. Fodd bynnag, ni allwn roi gwarant bod y wybodaeth yn gywir, yn gyflawn a/ neu yn ddiweddar. Ni allwn warantu yr holl neu unrhyw ran o’r safle, yn unswydd neu’n ddigrybwyll. 

Cwcis

Mae ein safle’n defnyddio cwcis (WPML, WordPress Administration, Cookiebar Save, Google Analytics). Pe dymunwch, gallwch flocio cwcis yn eich gosodiadau pori.

Darperir cwcis sy’n gysylltiedig â Google Analytics gan Google Inc. 1600 Amphitheatre Parkway Mountain View, CA 94043, USA. Mae Google Analytics yn declyn dadansoddol gwefan sy’n helpu perchonogion gwefannau i ddeall sut mae ymwelwyr yn ymgysylltu â’u gwefan. Gall cwsmeriaid Google Analytics weld adroddiadau amrywiol ar sut mae ymwelwyr yn rhyngweithio â’u gwefan er mwyn iddynt ei gwella.

Fel arfer mae gwybodaeth a geir o’r cwci ar eich defnydd o’r wefan hon yn cael ei throsglwyddo i weinydd Google yn UDA a’i chadw yno. Yn achos cael cyfeiriad IP anhysbys ar y safle hon, cyfyngir ar eich cyfeiriad IP o fewn yr Undeb Ewropeaidd, neu mewn gwledydd gyda chytundeb gydag Ardal Economiadd Ewropeaidd. Dim ond mewn amgylchiadau neilltuol y bydd y cyfeiriad IP llawn yn cael ei drosglwyddo i weinydd Google yn UDA a’i docio yno.

Nid yw’r cyfeiriad IP a drosglwyddir i Google Analytics o’ch porrwr â chysylltiad ag unrhyw ddata arall o Google. Yn ogystal â neu fel ffordd arall o flocio cwcis yn eich gosodiadau porri gallwch hefyd flocio Google rhag prosesu eich data trwy lawrlwytho’r ‘plugin’ porri hwn.

Ceir mwy o wybodaeth am ddiogelu data a google analytics yma.