Telynau cyn-demo

Wrth i ni adnewyddu ein stoc rydym yn gwerthu ein modelau demo am bris gostyngedig. Mae’r telynau hyn wedi bod i arddangosfeydd gyda ni ac wedi cael eu chwarae yn ein hystafell arddangos. Maent fel arfer rhwng 6 mis – 2 mlwydd oed ac yn cael eu gwerthu gyda gwarant lawn 10 mlynedd Camac a set o orchuddion teithio trwm (fel arfer £595.00 ychwanegol).

Ar hyn o bryd mae gennym y telynau cyn-demo canlynol ar gael yn ein hystafell arddangos:

Telenn

Telyn werin 34 tant coludd ysgafn mewn gorffeniad Cneuen Ffrengig. Mae’r delyn yma yn 18 mis oed ac mewn cyflwr ardderchog. Yn dod gyda gorchudd llwch, allwedd tiwnio a warant 5 mlynedd – £2,200.00

Telenn Dwylo Bach

Telyn werin 34 tant coludd ysgafn mewn gorffeniad ceirios. Mae’r delyn yma yn 3 mis oed ac mewn cyflwr ardderchog. Mae gan y Telenn Dwylo Bach tannau sydd wedi eu haddasu’n arbennig ar gyfer bysedd bychain. Yn dod gyda gorchudd llwch, allwedd tiwnio a warant 5 mlynedd – £2,250.00

 

Hermine

Telyn werin 34 tant carbon mewn gorffeniad ceirios. Mae’r delyn yma yn 3 mis oed ac mewn cyflwr ardderchog. Dim ond cwpwl o marciau bach iawn. Yn dod gyda gorchudd llwch, allwedd tiwnio a warant 5 mlynedd – £2,295.00

Atlantide Prestige

Telyn bedal 47 tant mewn gorffeniad Cneuen Ffrengig gyda seinfwrdd estynedig wedi ei addurno. Mae’r delyn yma yn 12 mis oed ac mewn cyflwr ardderchog. Yn dod gyda gorchudd llwch, allwedd tiwnio mewn daliwr, set o orchuddion teithio, cas cerddoriaeth gydag offer cymhwyso a warant llawn 10 mlynedd – £21,495.00