Cyn prosiectau

Cyngres Telynau’r Byd 2022

Yn ystod Haf 2022 gwelom wir uchafbwynt: daeth Cyngres Telynau’r Byd i Gaerdydd, cartref Telynau Vining!

Cliciwch yma i ddarllen ein blogiau o’r wythnos gyfan.

Taith Dwylo ar Dannau’r Delyn

Roedd Taith Dwylo ar Dannau’r Delyn yn gyfres o ddigwyddiadau telyn mewn colegau, ysgolion a neuaddau cymunedol ledled Cymru a oedd yn arwain at Ŵyl Delynau Ryngwladol Cymru (5-12 Ebrill 2023), a drefnir gan Ganolfan Gerdd William Mathias.

Lansiwyd yr ŵyl ei hun gyda chyngerdd ym Mhrifysgol Bangor ar nos Sadwrn, Hydref 22ain 2022, ac oedd yn rhan o’r rhaglen swyddogol i ddathlu 100 mlynedd ers sefydlu Adran Gerdd lle bu Elinor yn Athrawes y Delyn am nifer o flynyddoedd.

Yn dilyn hyn, cynhelir taith Dwylo ar Dannau’r Delyn ac roeddem yn falch iawn i fod yn rhan o hyn. Roedd y daith yn cynnwys gweithdy telyn, dosbarth meistr, arddangosfa telyn a chyngerdd mewn sawl lleoliad ar hyd y ffordd o Gaergybi i Gaerdydd gan weithio gyda athro lleol ym mhob lleoliad.

Diwrnod Telyn Camac Caernarfon Dydd Sadwrn 5 Hydref 2019

Diwrnod Telyn Camac Caernarfon: Ymunwch â ni am ddiwrnod o ganu’r delyn a chyngerdd anffurfiol gyda Claire Jones a Dylan Wyn Rowlands yn Galeri, Caernarfon ynghyd ag arddangosfa o delynau Camac Amserlen y dydd

Gŵyl Rhyngwladol Harp on Wight 25 – 29 Hydref 2019

Gŵyl Rhyngwladol Harp on Wight: Unwaith eto byddwn yn teithio draw i Ryde i arddangos yn y Galeri Telyn yn Eglwys Methodistiaid Ryde. Mae manylion llawn yr Wyl yw weld yma: www.harponwight.co.uk

Diwrnod Telyn Chiltern Dydd Sadwrn 9 Tachwedd 2019

Diwrnod Telyn Chiltern: Gydag Eleanor Turner. Manylion llawn i ddilyn

Diwrnod Telyn Camac Caeredin Dydd Sadwrn 16 Tachwedd 2019

Diwrnod Telyn Camac Caeredin: Gyda Heather Downie a Tsvetelina Likova. Manylion llawn i ddilyn

Diwrnod Telyn Cheltenham Dydd Sul 8 Rhagfyr 2019

Diwrnod Telyn Cheltenham: Rydym wrth ein bodd i weithio unwaith eto efo Natasha Gale a Tara Minton am ddiwrnod o ganu’r delyn yn Cheltenham. Manylion llawn i ddilyn

Sesiynau Trio Telyn yng Nghaerdydd

Roeddem wrth ein bodd yn cynnal sesiwn “Trio Telyn”, gyda’r delynores o Gaerdydd Shelley Fairplay.

Yn ystod y gweithdy, cyflwynwyd cyfranogwyr i amrywiaeth o delynau gwahanol gan gynnwys telynau Celtaidd a pedal. Rhoesom delyn gwerin i bawb i’w ddefnyddio trwy gydol y sesiwn, a dysgon nhw sut i eistedd, techneg delyn sylfaenol ac wrth gwrs sut i greu synau hardd! Erbyn diwedd y sesiwn, roedd pawb wedi canfod yr holl nodiadau ar eu telyn, yn chwarae cyfeiliant ynghyd â Shelley, ac yn chwarae alaw ar eu pen eu hunain!

Ar gyfer pawb sydd eisiau chwarae’r delyn, peidiwch ag anghofio bod ein cynllun rhentu telyn yn dechrau o ddim ond £ 60 y mis.


Gweithdai Addysgol Camac

Hydref dwetha roedden ni’n falch iawn i fod yn mynd ar daith efo’r delynores adnabyddus Elinor Bennett ar gyfer cyfres o weithdai i gefnogi Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru. Mewn pump lleoliad ar draws y DU roeddwn yn gweithio efo athro telyn lleol i ddod a diwrnod llawn chwarae ar gyfer telynorion o bob safon tra’n lledaenu’r gair am yr Ŵyl bydd yn digwydd yng Nghaernarfon yn Ebrill 2018. Yn ogystal a gweithio efo Elinor a’r athro lleol roedd hefyd gyfle i drio dewis helaeth o delynau Camac yn ein arddangosfa o delynau Camac oedd yn rhedeg ym mhob digwyddiad.

2000 o filltiroedd yn ddiweddarach, mae’n amser estyn ein gwerthfawrogiad a diolch yn fawr iawn i’n athrawon gwadd – Rohan Platts, Elfair Grug, Llywelyn Jones, Shelley Fairplay a Heather Downie; diolch i bob un o’r telynorion a ddaeth i gymeryd rhan; i Catrin, Nia a’r tîm yng Nghanolfan Gerdd WIlliam Mathias; ac i Delynau Camac Ffrainc am eu cefnogaeth. Hoffem hefyd ddiolch yn arbennig i Elinor
Bennett am ei hysbrydoliaeth, brwdfrydedd a chyfeillgarwch trwy gydol y prosiect. Edrychwn ymlaen at gael eich gweld yng Nghaernarfon.

 

 


Gwyl Caeredin 2017

Rydyn yn arddangos yng Ngwyl Delynau Rhyngwladol Caeredin bob blwyddyn – fel mae’n digwydd yn yr ystafell Ffrangeg yn Ysgol Castell Merchiston! Eleni roedd yn fraint enill tender i gyflawni chwech telyn lifer i’r Clarsach Society. Mae’r telynau yma yn cael ei ddefnyddio ar gyfer system llogi y Clarsach Society.


Penwythnos Telynau Camac Caerdydd 2017 

Roedd ein trydydd Penwythnos Telynau Camac Caerdydd yn llwyddiant aruthrol! Eleni, croesawon Deborah Henson-Conant – yr ysbrydoliaeth tu ol i’n telyny electro DHC Blue Light. Fe fwynhaon ni hefyd cyngherddau a gweithdai gan Eleanor Turner, Tara Minton, Gabriella Dall’Olio, Ben Creighton-Griffiths a Shelley Fairplay. Fe ymuno ni hefyd gan Jakez François, Enric De Anciola a Helen Leitner o Camac Ffrianc, gyda arddangosfa arebnnig ac cyweirio a ddim gan Telynau Camac.