Telenn Small Hands

Telenn Small Hands

Telyn gyda Bylchau i’r Tannau ar gyfer Plant

Uchder:133 / 140 / 148 cm (traed isel / coesau hanner uchder/ coesau uchel)
Pwysau:12 cg
Ystod:34 tant, A1 - C34
Tantio :

neilon i delyn â thannau coludd (A1 – F3), coludd ysgafn (E4 – D26), weiars bas telyn lifer (C27 – C34)

Pren:

masarn a ffawydden i’r corff, sbriwsen i’r seinfwrdd

Caboliadau:

masarn naturiol, pren ceirios, collen Ffrengig, mahogani, eboni. Addurniadau seinfwrdd opsiynol. Hyd safonol y coesau yw hanner uchder, oni bai y gorchmynnir yn wahanol.

Y delyn Telenn Small Hands yw’r delyn gyntaf ar y farchnad gyda bylchau i’r tannau sydd wedi eu haddasu’n arbennig ar gyfer bysedd bychain plant. Pan wneir fiolinau a cellos fel rhai hanner, chwarter neu hyd yn oed wythfed ac unfed ar bymtheg mewn maint, addasir holl rannau’r offeryn. Ond nid felly gyda rhan o’r delyn mae’r plant yn ei gyffwrdd fwyaf – y tannau.

Isabelle Moretti yw’r ysbrydoliaeth tu ôl i’r Telenn Small Hands. Hi sylwodd sut oedd yn rhaid i’r plant ieuengaf gael tannau’n nes at ei gilydd, a dywedodd wrthym am ei syniad. Wedi hynny wnaethom ni ddatblygu a phrofi ein prototeipiau gydag athrawon a’u myfyrwyr ym Mharis ac yn y rhaglen i blant cyn-ysgol yn y Royal Conservatory yn yr Hâg.

Mae gan y Telenn Small Hands dannau mewn coludd ysgafn er rhwyddineb chwarae, a dewis o dri uchder coesau. Bydd eich plentyn yn teimlo’n gyfforddus naturiol gyda’r delyn hon – o’r dechrau cyntaf!

 Os na archebir yn wahanol, bydd y delyn yn dod gyda choesau hanner uchder.