- Mademoiselle
- Ulysse
- Aziliz
- Janet
- Mélusine de Concert
- Excalibur
- Celtic Isolde / Isolde classique
- Melusine
- Korrigan
- Telenn Small Hands
- Hermine
- Telenn
Excalibur
Telyn gyngerdd lifer mawr
Uchder: | 147 cm |
Pwysau: | 13.8 cg |
Ystod: | 38 tant, C00 - A36 |
Tantio : | fflworocarbon Kürschner ar gyfer Excalibur (C00 i D26), weiars telyn lifer (C27 i A36) |
Pren: | masarn a ffawydden i’r corff, sbriwsen i’r seinfwrdd |
Caboliadau: | mahogani, pren ceirios, collen Ffrengig, naturiol neu eboni. Addurniadau seinfwrdd opsiynol |
François Pernel
Llawer o flynyddoedd yn ôl, roedd Telynau Camac yn falch iawn o’u telyn Excalibur, sef offeryn ar gyfer cerddorion oedd angen offeryn pwerus, unigryw. Fel y cleddyf chwedlonol, nid yw’r delyn hon gyda ni mwyach. Ond erbyn hyn, mae’r Excalibur yn codi eto, mewn model newydd! Mae’n delyn lifer fawr, yn cynnig tensiwn tannau llyfn, seinfwrdd wedi ei ddylunio’n arbennig, a’r cydbwysedd gorau yn amleddau’r seinfwrdd. Mae ei sain yn enfawr, yn anhygoel o gyfoethog ac yn llyfn.
Mae’r Excalibur yn cynnig ymgom newydd rhwng ei blwch sain newydd, ystod eang wedi ei chynhyrchu ar gyfer pob math o gerddoriaeth, a thensiwn tannau cyfoes. Mae’n feincnod cerddorol, yn cynnig i’r artist, berthynas arloesol â’i offeryn.