Hermine

Hermine

Telyn lifer myfyriwr

Uchder:122 cm
Pwysau:11 cg
Ystod:34 tant, A1 - C34
Tantio :

Alliance (A1 – D26), weiars bas telyn lifer (C27 – C34)

Pren:

masarn a ffawydden i’r corff, sbriwsen i’r seinfwrdd

Caboliadau:

masarn naturiol, pren ceirios, collen Ffrengig, mahogani, eboni. Addurniadau seinfwrdd opsiynol. Traed isel / coesau uchel

Yn dilyn ceisiadau gan athrawon telyn crëwyd yr Hermine yn 2003 ac mae’n delyn lifer ardderchog ar gyfer myfyrwyr. Mae ei maint a’i hysgafnder yn ei gwneud yn arbennig o addas ar gyfer chwaraewyr iau.  Mae ganddi dannau Alliance, ac mae’n cyfuno natur crwn a grym tannau coludd gyda chadernid a sefydlogrwydd tannau synthetig. Yn ysgafn, yn hawdd ei thrin ac o ansawdd dilychwyn, mae’r Hermine yn hygyrch hefyd, diolch i’w phris deniadol iawn. Mae’r Hermine ar gael ar draed isel neu goesau uwch.