Telenn

Telenn

Telyn lifer myfyriwr tannau coludd

Uchder:133 / 148 cm (traed isel / coesau uchel)
Pwysau:12 cg
Ystod:34 tant, A1 - C34
Tantio :

neilon i delyn â thannau coludd (A1 – F3), coludd ysgafn (E4 – D26), weiars bas telyn lifer (C27 – C34)

Pren:

masarn a ffawydden i’r corff, sbriwsen i’r seinfwrdd

Caboliadau:

masarn naturiol, pren ceirios, collen Ffrengig, mahogani, eboni. Addurniadau seinfwrdd opsiynol. Traed isel / coesau uchel

Mae’r Telenn yn delyn a ellir ei chymharu â’r Hermine, i’r rhai sydd yn well ganddynt dannau coludd. Mae ei maint (34 tant) a’i phris fforddiadwy yn ei gwneud yn delyn delfrydol i ddechrau arni neu fel offeryn i’w chludo. Fel y Korrigan a’r Hermine, mae ar gael gyda thraed isel neu goesau uwch, yn ôl eich hoffter chi.

Mewn ymateb i adborth gan athrawon a phartneriaid, ail-ddyluniwyd y Camac Telenn yn ddiweddar. Mae ganddi seinfwrdd newydd, gogwydd newydd i’r gwddf, hyd tannau newydd a thensiwn newydd. Bellach mae wedi ei thantio â choludd ysgafn, mae’r tensiwn yn feddalach a’r tynnu yn ysgafnach sy’n ddelfrydol ar gyfer plant a’r telynor gwerin.