- Telynau Cyngerdd Crand
- Atlantide Prestige
- Vendôme
- Égérie Estynedig
- Égérie Syth
- Schola
- Clio Estynedig
- Clio Syth
Atlantide Prestige
Telyn Gyngerdd Crand
Uchder: | 186 cm |
Pwysau: | 35 cg |
Ystod: | 47 tant, G00 - C45 |
Pren: | masarn, a sbriwsen i’r seinfwrdd. Cyfres arbennig mewn rhosbren Santos o Frasil, Zebrano/Zingana, Kevazingo/Bubinga |
Caboliadau: | masarn naturiol, mahogani, pren ceirios, eboni, rhosbren, Zebrano, Kevazingo. Gorffeniadau penodol i’w harchebu |
Yr Atlantide Prestige yw emblem cyfres telynau pedal proffesiynol ‘Cenhedlaeth Newydd’ Camac. Fe’i lansiwyd ym 1996 yng Nghynhadledd Telynau’r Byd ym Mhrâg ac mae telynau’r Genhedlaeth Newydd wedi eu hailddylunio’n llwyr, i ddatrys y materion technolegol mwyaf pwysig mewn telynau a gynhyrchir yn draddodiadol. Y prif newidiadau mewn Telynau Cenhedlaeth Newydd yw tonyddiaeth arbennig o gywir, a mecanwaith llyfn, tawel a hawdd ei reoleiddio. Mae’r defnydd o ffeibr carbon yn y rhannau strwythurol wedi gwella’r cryfder, y pwysau a’r sefydlogrwydd tra bo cydbwysedd newydd o amleddau yn y seinfwrdd wedi arwain at sain eithriadol: crwn, eglur a llyfn.
Mae’r Atlantide Prestige hefyd ar gael mewn pren hardd, prin. Mae rhosbren trofannol, Bubinga a Zingana yn cynnig ystod wych o liw, gwythienwaith a dyluniad. Fel ein holl bren, fe’u dewisir o goedwigoedd cynaliadwy gan roi ystyriaeth ddifrifol i gadwraeth amgylcheddol.