Elysée

Elysée

Telyn Gyngerdd Crand

Uchder:187 cm
Pwysau:39 cg
Ystod:47 tant, G00 - C45
Pren:

Rhosbren Santos o Frasil i’r corff, sbriwsen i’r seinfwrdd

Caboliadau:

rhosbren naturiol, addurniadau o efydd goreurog. Gorffeniadau penodol i’w harchebu

Mae’r Elysée, sy’n delyn Gyngerdd Crand yn y traddodiad Ffrengig puraf, wedi ei chreu mewn teyrnged i’w chyndeidiau, y telynau mawr Erard, ac i oes aur gwneuthurwyr telynau Ffrengig. Mae wedi ei hysbrydoli gan fodelau Empire Erard ac mae hefyd yn atgof esthetig ohonynt, gydag addurniadau mewn efydd goreurog. Castiwyd yr efydd yn uniongyrchol o’r Erard Empire 3969 gwreiddiol sydd erbyn hyn yng nghasgliad preifat Camac o offerynau hanesyddol. Fe’u castiwyd gan feistr o grefftiwr Ffrengig sy’n gweithio i’r amgueddfeydd cenedlaethol.