Rhentu Telyn
Mae gennym ddewisiad o delynau gwerin Camac sydd ar gael i rhentu – ceisiwch cyn prynu! Yn dilyn ceisiadau gan athrawon telyn crëwyd yr Hermine yn 2003 ac mae’n delyn lifer ardderchog ar gyfer myfyrwyr. Mae ei maint a’i hysgafnder yn ei gwneud yn arbennig o addas ar gyfer chwaraewyr iau. Mae ganddi dannau Alliance, ac mae’n cyfuno natur crwn a grym tannau coludd gyda chadernid a sefydlogrwydd tannau synthetig. Yn ysgafn, yn hawdd ei thrin ac o ansawdd dilychwyn, mae’r Hermine yn hygyrch hefyd, diolch i’w phris deniadol iawn. Mae’r Hermine ar gael ar draed isel neu goesau uwch.
Telerau Llogi
-
Rhaid rhentu pob telyn werin am gyfnod o dri mis o leiaf.
-
Mae’r ernes a thaliad rhent y mis cyntaf yn daladwy ar ddyddiad y cytundeb.
-
Telir taliadau rhent wedi hynny yn fisol drwy Orchymyn Banc.
-
Ad-delir yr ernes ar ddiwedd y cyfnod llogi, ar yr amod fod y delyn yn cael ei dychwelyd yn yr un cyflwr â phan dderbyniwyd hi.
-
Yn ystod y cyfnod rhentu, cynigir cyfran o’r taliadau rhent fel credyd pe baech yn penderfynu prynu unrhyw un o’n telynau gwerin (cyfwerth â neu o fwy o werth na’r delyn sy’n cael ei llogi). Patrwn y credyd hwn fydd: Wedi llogi am dri mis – Ad-dalu’r symiau rhent a dalwyd yn llawn. Wedi llogi am chwe mis – Dau-draean o’r symiau rhent a dalwyd; Wedi llogi am ddeuddeg mis – Traean o’r symiau rhent a dalwyd a phob deuddeg mis wedi hynny.
-
Y llogydd sy’n gyfrifol, ar ei draul/thraul ei hun, am osod tannau newydd yn lle rhai sydd wedi treulio neu dorri, sef tannau Camac yn unig, ar gael gan Telynau Vining Cyf.
-
Mae’r llogydd yn gyfrifol am yswirio’r offeryn yn erbyn colled neu niwed.
-
Os bydd angen trawsgludo’r delyn i chi, codir tâl ychwanegol, yn daladwy o flaen llaw.
-
Prisiau’n cynnwys TAW ar y gyfradd gyfredol o 20%.
Ebrill 2016
Gwerth (gyda TAW): £2,495.00
Rhent (misol o flaen llaw): £60.00
Cyfanswm sy’n daladwy wrth arwyddo: £210.00 * (Mae’r cyfanswm sy’n daladwy wrth arwyddo yn cynnwys rhent y mis cyntaf o flaen llaw ac ernes ddychweladwy o £150.00)