Penwythnos Telynau Camac Caerdydd 2024

Rydym wrth ein bodd i’ch croesawu i’n Penwythnos Telynau Camac Caerdydd diweddaraf. Eleni mae’r digwyddiad yn un arbennig i ni oherwydd rydym yn dathlu 25 blynedd o’n partneriaeth gyda Camac Harps fel eu dosbarthwr yn y DU. Ymunwch a ni yng Nghaerdydd ar 4-5 Mai am benwythnos gwych o gyngherddau telyn, gweithdai, sgyrsiau a dosbarthiadau meistr. Cofrestrwch eich telyn Camac i mewn i gael rheoliad rhad ac am ddim gan dechnegwyr telyn Camac neu galwch i mewn i roi cynnig ar amrywiaeth o delynau Camac yn yr arddangosfa. Mae’r holl fanylion sydd eu hangen arnoch yn y llyfryn isod a gallwch hefyd lawrlwytho’r ffurflen archebu. Edrychwn ymlaen at ddathlu popeth Camac gyda chi yng Nghaerdydd!

Rhaglen

I ddathlu ein penblwydd yn 25, rydym wedi dyfeisio rhaglen eithriadol ar gyfer penwythnos y delyn eleni. Rydym yn falch iawn bod y telynorion rhyngwladol byd-enwog Isabelle Moretti a Deborah Henson-Conant yn ymuno â ni i roi cyngherddau yn ogystal â dosbarth meistr a gweithdy. Rydym hefyd yn falch iawn bod Jakez Francois, Llywydd Telynau Camac wedi cytuno i gael ei gyfweld am hanes Camac. Allwn ni ddim diolch digon iddyn nhw am wneud y daith i ddathlu gyda ni!

Yn ymuno â’n cyfeillion rhyngwladol mae yna gyfres ddisglair o dalent cartref. Alexander Rider, Amanda Whiting, Ben Creighton Griffiths, Catrin Finch, Elinor Bennett, Gwenllian Llyr, Heather Downie, Kathryn Rees, Lauren Scott, Natasha Gale, Shelley Fairplay a Sigal Nachshen. Mae’r amrywiaeth anhygoel hon o dalent yn golygu bod rhywbeth at ddant pob oedran – plant ac oedolion; pob gradd – o ddechreuwyr llwyr i delynorion proffesiynol; a phob arddull – o glasurol i pop, jazz a cherddoriaeth draddodiadol.

Am fwy o fanylion, lawrlwythwch y PDF o’r rhaglen lawn i’r dde! Gallwch hefyd lawrlwytho’r ffurflen archebu, a’i dychwelyd atom drwy’r post neu e-bost.